Argymhellion i Lywodraeth y DU ar ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2021
Mae ein hadolygiad Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr wedi taflu golwg ar sut i adnewyddu system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus y DU ar gyfer y ddeng mlynedd nesaf. Gan ddilyn ein hymgynghoriad ym mis Rhagfyr 2020, mae'r datganiad hwn yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU a'r diwydiant.
Datganiad: Argymhellion i Lywodraeth y DU ar ddyfodol Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (PDF, 2.0 MB)
Bu i ni dderbyn dros 100 o ymatebion i'n hymgynghoriad. Cafwyd amrywiaeth eang o farn, ond cytunwyd ar rai materion hanfodol: pwysigrwydd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i wylwyr yn y DU ac i economi'r DU; a'r angen taer am ddiweddaru'r system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i sicrhau ei bod yn ariannol gynaliadwy yn y dyfodol.
Gan ddilyn cyhoeddi'r datganiad hwn byddwn yn cefnogi Llywodraeth y DU ar sut y gellir cynnwys ein hargymhellion yn ei phapur gwyn ac mewn unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol mewn perthynas â'r cyfryngau. Mae DCMS wedi cyhoeddi hefyd y bydd yn ymgynghori yr haf yma ar gynlluniau ynglŷn â rheoleiddio gwasanaethau ar-alw ac mae wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gylch gwaith Corfforaeth Channel 4 a phwy all berchen arni.
Bydd ein gwaith gyda DCMS yn parhau i mewn i'r hydref. Mewn rhai meysydd, rydym yn disgwyl y bydd angen datblygu polisïau pellach i weithio allan y manylder y mae ei angen ar gyfer rheoleiddio, er mwyn sicrhau bod y fframwaith newydd yn effeithiol a bodd modd ei orfodi. Wrth i unrhyw ddeddfwriaeth newydd a rheoleiddio dilynol gael eu datblygu, byddwn yn rhyngweithio'n agos â Llywodraeth y DU, Senedd y DU a rhanddeiliaid.
Annex 2: Producing public service media content (PDF, 390.6 KB)
Annex 3: How to incentivise new provision of UK public service media (PDF, 5.1 MB)
Annex 4: Encouraging public interest content: international examples (PDF, 151.5 KB)
Annex 5: The existing public service broadcasting regulatory framework (PDF, 267.3 KB)
Atodiad 6: Pam mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn bwysig o hyd (PDF, 293.2 KB)
Atodiad 7: Rôl PSB yn y sector cynhyrchu teledu (PDF, 444.4 KB)
Atodiad 8: Fframwaith rheoleiddio PSB (PDF, 305.0 KB)
Mae dogfennau a thystiolaeth bellach sydd wedi cyfrannu at ein gwaith hefyd ar gael ar ein tudalen ymchwil ac adroddiadau
Fel rhan o Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, rydym am edrych yn fanylach ar y berthynas sy'n bodoli heddiw rhwng y Darlledwyr Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) a'r sector cynhyrchu. Ein nod yw deall effaith rheoleiddio ar y berthynas honno wrth iddi addasu i amodau marchnad esblygol.
Er mwyn cyfeirio ein harghymhellion i Lywodraeth y DU, rydym yn ceisio tystiolaeth a gwybodaeth gan randdeiliaid (PDF, 698.9 KB) ynglŷn ag effeithiolrwydd yr agweddau craidd ar reoleiddio sy'n berthnasol i gynhyrchu annibynnol nawr ac yn y dyfodol. Fel rhan o ymarfer ymgynghori ehangach ein rhaglen waith Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, rydym yn gwahodd partïon â diddordeb i ymateb i'r Cais am dystiolaeth hon erbyn 16 Mawrth 2021.
Gyrrwch eich ymateb trwy e-bost i sgrinfach.trafodaethfawr@ofcom.org.uk erbyn 16 Mawrth 2021. Gallwch hefyd gyflwyno eich ymateb gan ddefnyddio’r ffurflen ymateb (RTF, 11.6 MB).
Further documents and evidence which have informed our work to-date are also available on the research and reports page.