Beth yw Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr?
Yn ein hadolygiad Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, rydym wedi taflu golwg ar sut i adnewyddu system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ('PSM') y DU, gan gynnwys darlledu ac ar-lein, dros y ddeng mlynedd nesaf.
I gefnogi ein gwaith yn y maes hwn, bu i ni gomisiynu cyfoeth o ymchwil a dadansoddiad o'r farchnad, i'n helpu i ddeall beth mae cynulleidfaoedd gwahanol yn ei werthfawrogi am gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a sut y gellir moderneiddio'r rheoleiddio presennol i gefnogi'r newid o system Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus i system Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus.
Rydym wedi cynnal digwyddiadau ar draws y wlad i glywed amrywiaeth mor eang â phosib o farn am yr opsiynau ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol gan gynnwys darlledwyr, cynhyrchwyr, gweithgynhyrchwyr, darparwyr llwyfannau ac academyddion.
Ym mis Hydref 2020, bu i ni gynnal cynhadledd rithwir a daflodd olwg ar y cwestiynau mawrion sy'n wynebu darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y 2020au. Gallwch chi ddod o hyd i adroddiadau am y gwaith hyn i gyd a gwylio trafodaethau panel a chyfweliadau gyda llawer o uwch reolwyr y byd darlledu ar y wefan hon.
Bu i ni redeg cystadleuaeth hefyd gyda'r Financial Times a ofynnodd i ddisgyblion ysgol gyflwyno blog neu fideo ar sut y gall darparwyr cyfryngau aros yn berthnasol yn y dyfodol. Gallwch ddarllen y ceisiadau buddugol anhygoel.
Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddom ymgynghoriad tri mis ar ein canfyddiadau gan ddilyn rhaglen gynhwysfawr o ymchwil a dadansoddiad ar ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Wrth ymateb i'n hymgynghoriad, rydym wedi derbyn dros 100 o gyflwyniadau gan amrywiaeth o unigolion, darlledwyr, cynhyrchwyr, gweithredwyr llwyfan, seneddwyr ac academyddion.
Mae'r ymatebion a'r ymchwil wedi bwydo i mewn i'n datganiad ac argymhellion i Lywodraeth y DU sydd â'r nod o gefnogi cynaladwyedd parhaus cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Byddwn yn parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU a'r diwydiant wrth baratoi at unrhyw ddeddfwriaeth newydd er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus wrth wraidd economi greadigol fywiog y DU.