Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr: golwg ar ddarlledu yn y DU dros bum mlynedd
Mae’r asesiad diweddaraf hwn yn adolygu perfformiad y sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus rhwng 2014 a 2018.
Mae’r Ddeddf Cyfathrebiadau yn dynodi sianeli teledu penodol yn wasanaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus, sydd ar gael i bawb am ddim, heb orfod tanysgrifio nac ymrwymo i gontract. Darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yw'r rheini sy’n darparu gwasanaethau Sianel 3 (ITV ac STV), Sianel 4, Sianel 5, S4C a’r BBC. Er bod pob sianel deledu gwasanaeth cyhoeddus y BBC yn sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus, dim ond prif sianeli’r darlledwyr gwasanaeth eraill sydd â'r statws hwn.
Mae’r Ddeddf yn mynnu bod Ofcom yn adrodd o bryd i’w gilydd ar sut mae’r sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gyda’i gilydd, wedi cyflawni dibenion penodol mewn cysylltiad â darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus yw darparu:
- rhaglenni teledu sy'n delio ag ystod eang o bynciau;
- gwasanaethau teledu sy’n diwallu anghenion ac sy’n bodloni diddordebau cynifer o gynulleidfaoedd gwahanol ag sy’n ymarferol;
- gwasanaethau teledu sydd â chydbwysedd priodol, o ran eu natur a’u pynciau, er mwyn diwallu anghenion a buddiannau cynulleidfaoedd; a
- rhaglenni sy’n cynnal safonau cyffredinol uchel (gan gynnwys o ran cynnwys, ansawdd rhaglenni ac uniondeb golygyddol).
Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr – adolygiad pum mlynedd o ddarlledu yn y Deyrnas Unedig (PDF, 3.3 MB)
Dyma brif ganfyddiadau ein hasesiad:
- Mae cynulleidfaoedd yn dal yn rhoi gwerth uchel ar ddibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys newyddion dibynadwy a rhaglenni sy’n dangos agweddau gwahanol ar fywyd a diwylliant yn y DU.
- Ac er bod cynulleidfaoedd yn dal i fod â barn gadarnhaol am y sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar y cyfan, mae'r ffigurau gwylio, yn enwedig ymysg pobl iau, yn parhau i leihau.
- Ar y cyfan, mae’r sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi cyflawni eu cylchoedd gwaith darlledu gwasanaeth cyhoeddus statudol ac wedi chwarae rolau pwysig yn economi greadigol ehangach y DU. Buddsoddiad gan y sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus sy’n dal i gyfrif am y rhan fwyaf o refeniw sector cynhyrchu’r DU, ac mae’n cefnogi sector cynhyrchu bywiog ac amrywiol ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau.
- Fodd bynnag, mae’r sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn cael trafferth cynnal y lefel a’r amrywiaeth bresennol o raglenni, tra bo darparwyr eraill fel Sky a Netflix yn cynnig amrywiaeth eang a nifer uchel o gynnwys o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd yn y DU.
- Er bod y dewis estynedig a’r buddsoddiad cynyddol mewn rhaglenni gwreiddiol yn gadarnhaol i gynulleidfaoedd ac i’r sector cyfan, mae gwahaniaethau sylweddol yn y gymysgedd o genres mae gwahanol ddarparwyr yn eu cynnig, yn ogystal ag argaeledd y cynnwys hwn i bobl yn y DU.
Mae'r adroddiad data isod ar gael yn Saesneg yn unig.